Athrawon
Asesiadau ar sgrin TGAU a TAG UG Cyfrifiadureg
Mae'r canllawiau isod yn rhoi cyfarwyddiadau cam wrth gam i aelodau o staff sydd yn paratoi ar gyfer, ac yn cynnal ein hasesiadau ar sgrin TGAU a TAG UG Cyfrifiadureg
Cyrsiau DPP newydd
Mae'r rhaglen Medi 2018 - Gorffennaf 2019 nawr ar gael. Cadwch le ar y cwrs nawr i osgoi cael eich siomi!
Gallwch gadw lle ar y cwrs hyd at bum diwrnod gwaith cyn pob digwyddiad, felly gwnewch hynny'n fuan er mwyn sicrhau eich lle.
Ymgynghoriad ar Amserlenni Arholiadau Rhagarweiniol Mehefin 2020
Mae’r Cyd-gyngor Cymwysterau, ar ran bob corff dyfarnu yn y DU (AQA, CCEA, OCR, Pearson a CBAC) yn gwahodd canolfannau ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i anfon sylwadau ar ein amserlenni rhagarweiniol ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch Mehefin 2020.
Croesawir canolfannau i roi sylwadau am unrhyw bryderon penodol sydd ganddynt mewn perthynas â’n amserlenni rhagarweiniol, sydd ar gael i’w llwytho i lawr yma.
Bydd yr ymgynghoriad yn digwydd rhwng 28 Chwefror a 30 Ebrill 2019.
Dylid anfon sylwadau i: centresupport@jcq.org.uk
Canlyniadau - Gwybodaeth Ddefnyddiol
Gwasanaethau ar ôl y Canlyniadau
Canlyniadau sydd ar y gweill
Cyfres Arholiadau Tachwedd 2017: Diwrnod cyhoeddi canlyniadau Dydd Iau 11 Ionawr, 2018.
Adnoddau
Manylebau unedol - TGAU
Dilynwch y ddolen isod i wylio fideo sy'n esbonio rheolau mynediad ac ail-sefyll ar gyfer manylebau TGAU unedol (Mae'r fideo ond ar gael yn Saesneg) Fideo manylebau unedol - TGAU
Amserlenni arholiadau
Mae'r amserlen ar gyfer pob arholiad CBAC ar gael yn y ddogfen Amserlenni Arholiadau CBAC.
Adolygiad Arholiad Ar-lein
Gwallau mewn papurau arholiad
Mae'n annhebygol y byddwch yn darganfod gwall o fewn un o bapurau arholiad neu ddeunydd asesu CBAC, ond os yw hynny'n digwydd, byddwch mor garedig â gadael i swyddog arholiadau eich canolfan wybod cyn gynted â phosibl.
Rydym hefyd wedi darparu canllawiau ar gyfer swyddogion arholiadau ar hyn y dylent ei wneud, ynghyd â gwybodaeth i ymgeiswyr a all fod o ddiddordeb i chi.
Camymddwyn a Chwythu’r Chwiban
Os ydych chi’n credu eich bod wedi gweld tystiolaeth o gamymddygiad mewn arholiadau ac asesiadau, ewch i’r wybodaeth sydd ar ein tudalen camymddwyn a chysylltwch â ni yn syth.
Cysylltu â ni
Os hoffech chi gysylltu â CBAC am fater cyffredinol, medrwch wneud hynny drwy ddefnyddio'r ffurflen gyswllt.