Adnoddau
Mae CBAC yn cyhoeddi nifer o adnoddau i faes Cymraeg i oedolion. Gellir archebu'r rhain o siop lyfrau Cymraeg leol.
1. Cardiau Corryn
Mae Cardiau Corryn yn set o gardiau fflach neu gardiau sbardun addas i'w defnyddio ar ddiwedd lefel Mynediad i baratoi ymgeiswyr sy'n sefyll yr arholiad, neu o bosib ar ddechrau cwrs Sylfaen fel gweithgaredd adolygu.
Mae'r pecyn ar gael drwy eich siopau Cymraeg lleol am £9.95.
2. Llyfrau Cwrs CBAC
Mae CBAC wedi cyhoeddi cyfres o adnoddau i ddosbarthiadau Cymraeg i oedolion, o lefel Mynediad (dechreuwyr) i lefel Canolradd. Prif nod yr adnoddau hyn yw helpu pobl i ddysgu siarad Cymraeg. Dyma beth sydd ar gael ar bob lefel (fersiynau de a gogledd):
- Llyfr cwrs - i'w ddefnyddio yn y dosbarth
- Pecyn ymarfer - gwaith cartref i adolygu'r gwaith yn y llyfrau cwrs
- CDs - i'r dysgwyr adolygu gartref
Pan fydd yr adnoddau Cymraeg i Oedolion hyn yn mynd allan o brint, byddan nhw’n cael eu rhoi ar y wefan hon. Isod, mae dolenni i ffeiliau sain, sef y CDs adolygu ar gyfer dysgwyr sy’n defnyddio’r Cwrs Mynediad, a’r Canllawiau i Diwtoriaid.
- CD Adolygu’r Cwrs Mynediad (Fersiwn y De)
- CD Adolygu’r Cwrs Mynediad (Fersiwn y Gogledd)
- Canllawiau i Diwtoriaid Cwrs Mynediad
3. Cardiau Fflach CBAC (1-3)
Mae CBAC wedi cyhoeddi setiau o gardiau fflach i'r dosbarth Cymraeg i Oedolion. Mae cardiau mawr (maint A4) ar gael (i'r dosbarth cyfan), yn cynnwys CD o'r lluniau a llyfryn awgrymiadau. Hefyd, mae cardiau bach ar gael (maint A6) ar gyfer gwaith pâr (cardiau bach maint cardiau 'poker' yw Cardiau Bach CBAC 3). Mae 100 o gardiau ac arnynt ffotograffau lliw llawn ymhob pecyn.
4. Ffeil Hyfedredd
Ffeil o adnoddau ar lefel cyrsiau Gloywi neu Gymraeg Graenus. Mae'n cynnwys dros 200 o dudalennau o adnoddau i gyd-fynd ag unedau'r cymhwyster Hyfedredd.
5. Dysgu trwy Lenyddiaeth
Mae'r llyfr hwn yn cynnwys darnau byrion o lenyddiaeth Gymraeg, yn cynnwys caneuon, rhigymau, cerddi, darnau o ryddiaith, drama ac yn y blaen i'w defnyddio'n achlysurol yn y dosbarth Cymraeg i oedolion.
6. Detholiad o'r Tiwtor
Llyfr yn cynnwys llawer o adnoddau a syniadau dysgu ar bob lefel. Am ddim i diwtoriaid sydd wedi cofrestru gyda CBAC.
7. Cymraeg i'r Teulu
Mae hwn yn broject mawr a gyllidir gan Lywodraeth Cymru. Mae'n gwrs cynhwysfawr ar lefel dechreuwyr i rieni sydd eisiau defnyddio'u Cymraeg gyda'u plant.
Canllawiau i gyd-fynd â Gemau Trac Cymraeg i'r Teulu.
8. Darnau Gwrando
Casgliad o ymarferion gwrando i’w defnyddio mewn dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion.
Bydd yr ymarferion yn ddefnyddiol wrth baratoi ymgeiswyr i sefyll yr arholiadau Cymraeg i Oedolion:
Mynediad, Sylfaen a Chanolradd. Cynhwysir CD gyda’r llyfr, ac mae’r traciau sain ar ffurf ffeiliau mp3.