TGCh Cymhwysol TAG UG/U
Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth sy'n gysylltiedig a'r fanyleb TAG UG/Safon Uwch Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Cymhwysol, sydd ar gael yng Nghymru (a addysgir o 2009). Bydd y dyfarniad terfynol ar gyfer y cymwysterau yma yn ystod haf 2018 gydag un cyfle i ail sefyll yn haf 2019.
Canolfannau yng Nghymru
Ar hyn o bryd, mae CBAC mewn cyswllt â Chymwysterau Cymru ynglŷn â dynodi cymhwyster Safon Uwch 'wedi'i ddiweddaru' mewn TGCh Gymhwysol. Yn amodol ar ddynodi, bydd y fersiwn hwn ar gael i'w addysgu o fis Medi 2017 ymlaen a bydd yn parhau tan tua 2020, pan fydd penderfyniad ynghylch opsiynau amgen addas wedi'i wneud.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad y penderfyniad i ddynodi ai peidio cyn gynted â phosibl.
Tanysgrifiwch i dderbyn diweddariadau pwysig yn ymwneud â'r cymwysterau hyn.
Deunyddiau Cwrs
Mae'r adnoddau i gyd i'w gweld ar y dudalen Dogfennau Cysylltiedig.
Am y Cymwysterau Yma
Bydd angen i fyfyrwyr weithredu mewn amgylchedd o syniadau a dangos dealltwriaeth o TGCh yn rhychwantu cymwysiadau diweddaraf i rwydweithiau cymhleth y gymdeithas gyfoes. Asesir y myfyrwyr ar sail dibapur gyda chyfuniad o Astudiaethau Achos Electronig, Arholiadau ar-sgrin a thasgau'n seiliedig ar sefydliadau real/realistig. Mae 60% o'r asesu'n fewnol a 40% yn allanol.
Am fwy o wybodaeth ar arholiadau ar-sgrin, ewch i'r dudalen e-Asesu, neu cysylltwch â:
Laura Crook - Swyddog Cefnogaeth e-Asesu
Ffôn: 029 2026 5328
E-bost: laura.crook@wjec.co.uk
Asesiadau TGChC
- Mae'r asesiadau AICT2, AICT4 ac AICT6 ar gael ar y wefan ddiogel.
- Mae senario AICT5 ar gyfer grŵp ar gael ar y wefan ddiogel.
- Mae'r holl adnoddau sydd yn berthnasol i asesiad mewnol i'w gael ar y dudalen Dogfennau Cysylltiedig.
Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
Mae deunyddiau DPP ychwanegol ar gael drwy flwch gollwng. Os ydydch am gael defnyddio'r blwch gollwng hwn, cysylltwch ag Allan Perry neu Hilary Wyman.
Cysylltwch â Ni
Dolenni Defnyddiol
Manylion Cyswllt Ychwanegol
Cymwysterau Perthnasol
Adroddiadau Uwch Arholwyr
Mae adroddiadau Uwch Arholwyr Haf 2018 yn rhoi adborth ar gyfer y cymwysterau hen a newydd o'r gyfres arholiadau'r Haf hwn. Mae'r adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a sylwadau ar y gwaith a gynhyrchwyd ar gyfer y gyfres hon, gall hefyd gynorthwyo athrawon wrth iddynt baratoi eu myfyrwyr ar gyfer y gyfres nesaf o arholiadau.